Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 2:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau,

2. Cyflawnwch fy llawenydd; fel y byddoch yn meddwl yr un peth, a'r un cariad gennych, yn gytûn, yn synied yr un peth.

3. Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 2