Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda'r esgobion a'r diaconiaid:

2. Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3. I'm Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch,

4. Bob amser ym mhob deisyfiad o'r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd,

5. Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon;

6. Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist:

7. Megis y mae'n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â'ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras.

8. Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist.

9. A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o'ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr;

10. Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist;

11. Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.

12. Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i'r efengyl;

13. Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall;

14. Ac i lawer o'r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu'r gair yn ddi‐ofn.

15. Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da.

16. Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i'm rhwymau i:

17. A'r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y'm gosodwyd.

18. Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf.

19. Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist,

20. Yn ôl fy awyddfryd a'm gobaith, na'm gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.

21. Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw.

22. Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn.

23. Canys y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu, gan fod gennyf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw.

24. Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o'ch plegid chwi.

25. A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd;

26. Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o'm plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch.

27. Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl;

28. Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw.

29. Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef;

30. Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.