5. Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint;
6. Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a'r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.
7. Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.
8. Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus:
9. Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist.
10. Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:
11. Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd;
12. Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i:
13. Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl.