Hen Destament

Testament Newydd

Philemon 1:2-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di:

3. Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

4. Yr wyf yn diolch i'm Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau,

5. Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint;

6. Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a'r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.

7. Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.

8. Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus:

9. Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist.

Darllenwch bennod gyflawn Philemon 1