15. Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd;
16. Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?
17. Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi.
18. Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i;
19. Myfi Paul a'i hysgrifennais â'm llaw fy hun, myfi a'i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd.
20. Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd.
21. Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.
22. Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi.
23. Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu;
24. Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr.
25. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd chwi. Amen.At Philemon yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda'r gwas Onesimus.