Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 9:8-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.

9. Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a'i canlynodd ef.

10. A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i ddisgyblion.

11. A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwyty eich Athro chwi gyda'r publicanod a'r pechaduriaid?

12. A phan glybu'r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.

13. Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

14. Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?

15. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo'r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.

16. Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a'r rhwyg a wneir yn waeth.

17. Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen: os amgen, y costrelau a dyr, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 9