22. Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachawyd o'r awr honno.)
23. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ'r pennaeth, a gweled y cerddorion a'r dyrfa yn terfysgu,
24. Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.
25. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a'r llances a gyfododd.
26. A'r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.
27. A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym.
28. Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a'r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd.
29. Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi.
30. A'u llygaid a agorwyd: a'r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.
31. Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy'r holl wlad honno.
32. Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig.
33. Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.
34. Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.
35. A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.
36. A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a'u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail.
37. Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml:
38. Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.