Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 9:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau.

3. Ac wele, rhai o'r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.

4. A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?

5. Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?

6. Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ.

7. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun.

8. A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.

9. Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a'i canlynodd ef.

10. A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i ddisgyblion.

11. A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwyty eich Athro chwi gyda'r publicanod a'r pechaduriaid?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 9