Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 7:3-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

4. Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun?

5. O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun; ac yna y gweli'n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.

6. Na roddwch y peth sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a'ch rhwygo chwi.

7. Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi:

8. Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.

9. Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg?

10. Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo?

11. Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai a ofynnant iddo?

12. Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw'r gyfraith a'r proffwydi.

13. Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng: canys eang yw'r porth, a llydan yw'r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw'r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi:

14. Oblegid cyfyng yw'r porth, a chul yw'r ffordd, sydd yn arwain i'r bywyd; ac ychydig yw'r rhai sydd yn ei chael hi.

15. Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.

16. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 7