Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 7:18-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.

19. Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.

20. Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

21. Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

22. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?

23. Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.

24. Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a'i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig:

25. A'r glaw a ddisgynnodd, a'r llifeiriaint a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig.

26. A phob un a'r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod:

27. A'r glaw a ddisgynnodd, a'r llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.

28. A bu, wedi i'r Iesu orffen y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef:

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 7