Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 7:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Na fernwch, fel na'ch barner:

2. Canys â pha farn y barnoch, y'ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau.

3. A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

4. Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad imi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 7