Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 6:23-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!

24. Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlŷn wrth y naill, ac a esgeulusa'r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.

25. Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw'r bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff yn fwy na'r dillad?

26. Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?

27. A phwy ohonoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?

28. A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili'r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu:

29. Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.

30. Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd?

31. Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn?

32. (Canys yr holl bethau hyn y mae'r Cenhedloedd yn eu ceisio;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau'r holl bethau hyn.

33. Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.

34. Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 6