Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 5:41-48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. A phwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy.

42. Dyro i'r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.

43. Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.

44. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a'ch erlidiant;

45. Fel y byddoch blant i'ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.

46. Oblegid os cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna'r publicanod hefyd yr un peth?

47. Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw'r publicanod hefyd yn gwneuthur felly?

48. Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 5