Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 5:35-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Nac i'r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw.

36. Ac na thwng i'th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu.

37. Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae.

38. Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant:

39. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a'th drawo ar dy rudd ddeau, tro'r llall iddo hefyd.

40. Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd.

41. A phwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy.

42. Dyro i'r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.

43. Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.

44. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a'ch erlidiant;

45. Fel y byddoch blant i'ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.

46. Oblegid os cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna'r publicanod hefyd yr un peth?

47. Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw'r publicanod hefyd yn gwneuthur felly?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 5