26. Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
27. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb;
28. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i'w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.
29. Ac os dy lygad deau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
30. Ac os dy law ddeau a'th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
31. A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar:
32. Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo'r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
33. Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i'r Arglwydd:
34. Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i'r nef; canys gorseddfa Duw ydyw:
35. Nac i'r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw.
36. Ac na thwng i'th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu.