Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 5:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,

3. Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

4. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.

5. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.

6. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.

7. Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.

8. Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.

9. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.

10. Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

11. Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 5