6. A'r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw.
7. Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid.
8. Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw.
9. (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel;
10. Ac a'u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.)
11. A'r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
12. A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd efe ddim.
13. Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di?
14. Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.
15. Ac ar yr ŵyl honno yr arferai'r rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent.
16. Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.
17. Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai'r Iesu, yr hwn a elwir Crist?
18. Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.