Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 27:58-66 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

58. Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi'r corff.

59. A Joseff wedi cymryd y corff, a'i hamdôdd â lliain glân,

60. Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.

61. Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd.

62. A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a'r Phariseaid at Peilat,

63. Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf.

64. Gorchymyn gan hynny gadw'r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na'r cyntaf.

65. A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.

66. A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda'r wyliadwriaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 27