57. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a'i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i'r Iesu:
58. Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi'r corff.
59. A Joseff wedi cymryd y corff, a'i hamdôdd â lliain glân,
60. Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.
61. Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd.
62. A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a'r Phariseaid at Peilat,
63. Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf.
64. Gorchymyn gan hynny gadw'r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na'r cyntaf.
65. A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.