4. Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.
5. Ac wedi iddo daflu'r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd.
6. A'r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw.
7. Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid.
8. Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw.