33. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle'r benglog,
34. Hwy a roesant iddo i'w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.
35. Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni'r peth a ddywedwyd trwy'r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren.
36. A chan eistedd, hwy a'i gwyliasant ef yno:
37. A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON.
38. Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy.
39. A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau,
40. A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri'r deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes.
41. A'r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, a ddywedasant,
42. Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.
43. Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a'i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf.