Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 27:27-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i'r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin.

28. A hwy a'i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad.

29. A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon.

30. A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a'i trawsant ar ei ben.

31. Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymaith i'w groeshoelio.

32. Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.

33. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle'r benglog,

34. Hwy a roesant iddo i'w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.

35. Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni'r peth a ddywedwyd trwy'r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren.

36. A chan eistedd, hwy a'i gwyliasant ef yno:

37. A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON.

38. Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy.

39. A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau,

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 27