Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 27:17-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai'r Iesu, yr hwn a elwir Crist?

18. Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.

19. Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o'i achos ef.

20. A'r archoffeiriaid a'r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu.

21. A'r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas.

22. Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef.

23. A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.

24. A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.

25. A'r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.

26. Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes i'w groeshoelio.

27. Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i'r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin.

28. A hwy a'i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad.

29. A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon.

30. A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a'i trawsant ar ei ben.

31. Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymaith i'w groeshoelio.

32. Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.

33. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle'r benglog,

34. Hwy a roesant iddo i'w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 27