1. Aphan ddaeth y bore, cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth.
2. Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw.
3. Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i'r archoffeiriaid a'r henuriaid,
4. Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.
5. Ac wedi iddo daflu'r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd.
6. A'r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw.
7. Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid.