Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 25:31-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a'r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant.

32. A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola'r bugail y defaid oddi wrth y geifr:

33. Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy.

34. Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd.

35. Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi:

36. Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf.

37. Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, ac y'th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod?

38. A pha bryd y'th welsom yn ddieithr, ac y'th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y'th ddilladasom?

39. A pha bryd y'th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat?

40. A'r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â'i wneuthur ohonoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.

41. Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i'r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i'w angylion.

42. Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod:

43. Bûm ddieithr, ac ni'm dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni'm dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 25