Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 25:30-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

31. A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a'r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant.

32. A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola'r bugail y defaid oddi wrth y geifr:

33. Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy.

34. Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd.

35. Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi:

36. Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf.

37. Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, ac y'th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod?

38. A pha bryd y'th welsom yn ddieithr, ac y'th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y'th ddilladasom?

39. A pha bryd y'th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat?

40. A'r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â'i wneuthur ohonoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.

41. Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i'r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i'w angylion.

42. Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod:

43. Bûm ddieithr, ac ni'm dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni'm dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi.

44. Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti?

45. Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i'r un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau.

46. A'r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 25