Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 25:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â'r priodfab.

2. A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl.

3. Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt:

4. A'r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda'u lampau.

5. A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant.

6. Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae'r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef.

7. Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau.

8. A'r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi.

9. A'r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.

10. A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a'r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i'r briodas: a chaewyd y drws.

11. Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.

12. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi.

13. Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 25