38. Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch,
39. Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a'u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
40. Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a'r llall a adewir.
41. Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a'r llall a adewir.
42. Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.
43. A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
44. Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
45. Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?
46. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.
47. Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef.
48. Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;
49. A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon;
50. Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe;
51. Ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.