22. Ac oni bai fyrhau'r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
23. Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch.
24. Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.
25. Wele, rhagddywedais i chwi.
26. Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.
27. Oblegid fel y daw'r fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
28. Canys pa le bynnag y byddo'r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.
29. Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30. Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr.
31. Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.
32. Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a'i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:
33. Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau.
34. Yn wir meddaf i chwi, Nid â'r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.
35. Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.