13. Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14. A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy'r holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw'r diwedd.
15. Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;)
16. Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd.
17. Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o'i dŷ:
18. A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad.
19. A gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.
20. Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth:
21. Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau'r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.
22. Ac oni bai fyrhau'r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
23. Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch.
24. Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.
25. Wele, rhagddywedais i chwi.
26. Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.
27. Oblegid fel y daw'r fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
28. Canys pa le bynnag y byddo'r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.