3. Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.
4. Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o'u bysedd.
5. Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth;
6. A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau,
7. A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi.
8. Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych.
9. Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd.
10. Ac na'ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist.
11. A'r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi.
12. A phwy bynnag a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.
13. Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.
14. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy.
15. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir, i wneuthur un proselyt; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain.
16. Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i'r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled.
17. Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio'r aur?
18. A phwy bynnag a dwng i'r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled.
19. Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai'r allor sydd yn sancteiddio y rhodd?
20. Pwy bynnag gan hynny a dwng i'r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hyn oll sydd arni.
21. A phwy bynnag a dwng i'r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hwn sydd yn preswylio ynddi.
22. A'r hwn a dwng i'r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i'r hwn sydd yn eistedd arni.
23. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu'r mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio.