20. Pwy bynnag gan hynny a dwng i'r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hyn oll sydd arni.
21. A phwy bynnag a dwng i'r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hwn sydd yn preswylio ynddi.
22. A'r hwn a dwng i'r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i'r hwn sydd yn eistedd arni.
23. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu'r mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio.
24. Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel.
25. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ac o'r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb.
26. Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i'r cwpan a'r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt.
27. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid.
28. Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd.