1. Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i ddisgyblion,
2. Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid.
3. Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.
4. Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o'u bysedd.
5. Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth;
6. A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau,
7. A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi.
8. Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych.
9. Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd.
10. Ac na'ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist.
11. A'r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi.
12. A phwy bynnag a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.
13. Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.