Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 22:32-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.

33. A phan glybu'r torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.

34. Ac wedi clywed o'r Phariseaid ddarfod i'r Iesu ostegu'r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i'r un lle.

35. Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd,

36. Athro, pa un yw'r gorchymyn mawr yn y gyfraith?

37. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl.

38. Hwn yw'r cyntaf, a'r gorchymyn mawr.

39. A'r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun.

40. Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl gyfraith a'r proffwydi yn sefyll.

41. Ac wedi ymgasglu o'r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt,

42. Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd.

43. Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,

44. Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed di?

45. Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 22