Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 22:3-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod.

4. Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a'm pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i'r briodas.

5. A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i'w faes, ac arall i'w fasnach:

6. A'r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a'u hamharchasant, ac a'u lladdasant.

7. A phan glybu'r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt.

8. Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng.

9. Ewch gan hynny i'r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i'r briodas.

10. A'r gweision hynny a aethant allan i'r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.

11. A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano:

12. Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud.

13. Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a'i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

14. Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

15. Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd.

16. A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion.

17. Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw?

18. Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 22