14. Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
15. Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd.
16. A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion.
17. Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw?
18. Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr?
19. Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog:
20. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw'r ddelw hon a'r argraff?
21. Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a'r eiddo Duw i Dduw.
22. A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adael ef, a myned ymaith.
23. Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo,
24. Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i'w frawd.
25. Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i'w frawd.
26. Felly hefyd yr ail, a'r trydydd, hyd y seithfed.
27. Ac yn ddiwethaf oll bu farw'r wraig hefyd.
28. Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys hwynt‐hwy oll a'i cawsant hi.
29. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw.
30. Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef.
31. Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd,