Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 21:5-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â'r iau.

6. Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai'r Iesu iddynt.

7. A hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.

8. A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u taenasant ar hyd y ffordd.

9. A'r torfeydd, y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion.

10. Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn?

11. A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea.

12. A'r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau'r newidwyr arian, a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod:

13. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifennwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

14. A daeth y deillion a'r cloffion ato yn y deml; ac efe a'u hiachaodd hwynt.

15. A phan welodd yr archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 21