Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 21:22-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.

23. Ac wedi ei ddyfod ef i'r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?

24. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynnaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

25. Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o'r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef?

26. Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd.

27. A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

28. Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.

29. Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth.

30. A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe.

31. Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â'r publicanod a'r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.

32. Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a'r puteiniaid a'i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.

33. Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 21