Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 20:25-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy.

26. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;

27. A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi:

28. Megis na ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

29. Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.

30. Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.

31. A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.

32. A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi?

33. Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.

34. A'r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â'u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlynasant ef.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 20