Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 20:22-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o'r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.

23. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'm cwpan, ac y'ch bedyddir â'r bedydd y'm bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhad.

24. A phan glybu'r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr.

25. A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy.

26. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;

27. A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi:

28. Megis na ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

29. Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.

30. Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.

31. A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.

32. A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi?

33. Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 20