Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 2:9-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.

10. A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.

11. A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr.

12. Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i'w gwlad ar hyd ffordd arall.

13. Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i'w ddifetha ef.

14. Ac yntau pan gyfododd, a gymerth y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aifft;

15. Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd, gan ddywedyd, O'r Aifft y gelwais fy mab.

16. Yna Herod, pan weles ei siomi gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â'r doethion.

17. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd,

18. Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.

19. Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseff yn yr Aifft,

20. Gan ddywedyd, Cyfod, a chymer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw.

21. Ac wedi ei gyfodi, efe a gymerth y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.

22. Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Jwdea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea.

23. A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nasareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy'r proffwydi, Y gelwid ef yn Nasaread.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 2