Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 2:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi geni'r Iesu ym Methlehem Jwdea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Jerwsalem,

2. Gan ddywedyd, Pa le y mae'r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef.

3. Ond pan glybu Herod frenin, efe a gyffrowyd, a holl Jerwsalem gydag ef.

4. A chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist.

5. A hwy a ddywedasant wrtho, Ym Methlehem Jwdea: canys felly yr ysgrifennwyd trwy'r proffwyd;

6. A thithau, Bethlehem, tir Jwda, nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Jwda: canys ohonot ti y daw Tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.

7. Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren.

8. Ac wedi eu danfon hwy i Fethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a'i addoli ef.

9. Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.

10. A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.

11. A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 2