Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 19:9-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae'r hwn a briodo'r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.

10. Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae'r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.

11. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.

12. Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a'u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.

13. Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a'r disgyblion a'u ceryddodd hwynt.

14. A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.

15. Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.

16. Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol?

17. Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.

18. Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A'r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth,

19. Anrhydedda dy dad a'th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.

20. Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto?

21. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.

22. A phan glybu'r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 19