Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 19:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â'i wraig am bob achos?

4. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw?

5. Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn un cnawd.

6. Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn.

7. Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith?

8. Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd: eithr o'r dechrau nid felly yr oedd.

9. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae'r hwn a briodo'r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.

10. Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae'r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.

11. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 19