Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 17:4-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias.

5. Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a'u cysgododd hwynt: ac wele, lef o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd: gwrandewch arno ef.

6. A phan glybu'r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.

7. A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8. Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.

9. Ac fel yr oeddynt yn disgyn o'r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw.

10. A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae'r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf?

11. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a adfer bob peth.

12. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy.

13. Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.

14. Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau,

15. Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych.

16. Ac mi a'i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef.

17. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi.

18. A'r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan ohono: a'r bachgen a iachawyd o'r awr honno.

19. Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o'r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 17