Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 17:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a'i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned â'r goleuni.

3. Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef.

4. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias.

5. Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a'u cysgododd hwynt: ac wele, lef o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd: gwrandewch arno ef.

6. A phan glybu'r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.

7. A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8. Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.

9. Ac fel yr oeddynt yn disgyn o'r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw.

10. A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae'r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 17