Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 17:18-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A'r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan ohono: a'r bachgen a iachawyd o'r awr honno.

19. Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o'r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

20. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi.

21. Eithr nid â'r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.

22. Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion:

23. A hwy a'i lladdant; a'r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.

24. Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged?

25. Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid?

26. Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae'r plant yn rhyddion.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 17