Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 17:17-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi.

18. A'r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan ohono: a'r bachgen a iachawyd o'r awr honno.

19. Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o'r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

20. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi.

21. Eithr nid â'r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.

22. Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion:

23. A hwy a'i lladdant; a'r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.

24. Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 17