9. Eithr yn ofer y'm hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.
10. Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deellwch.
11. Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hynny sydd yn halogi dyn.
12. Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o'r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn?
13. Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.
14. Gadewch iddynt: tywysogion deillion i'r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.
15. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni'r ddameg hon.
16. A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau eto heb ddeall?
17. Onid ydych chwi yn deall eto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i'r genau, yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r geudy?
18. Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sydd yn dyfod allan o'r galon; a'r pethau hynny a halogant ddyn.
19. Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau:
20. Dyma'r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.
21. A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.