Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 15:28-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.

29. A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.

30. A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a'u hiachaodd hwynt:

31. Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.

32. A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.

33. A'i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint?

34. A'r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.

35. Ac efe a orchmynnodd i'r torfeydd eistedd ar y ddaear.

36. A chan gymryd y saith dorth, a'r pysgod, a diolch, efe a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'w ddisgyblion, a'r disgyblion i'r dyrfa.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 15